Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad: Hybrid - Committee

room 3, Senedd and video conference

via Zoom

Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Hydref 2022

Amser: 09.30 - 10.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13128


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd)

Peter Fox AS

Mike Hedges AS

Tystion:

Ken Skates AS, Comisiynydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid

Staff y Pwyllgor:

Owain Roberts (Clerc)

Leanne Hatcher (Ail Glerc)

Mike Lewis (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Christian Tipples (Ymchwilydd)

 

<AI1>

Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Peter Fox AS fuddiant o dan eitem 7, sef ei fod yn ffermwr ac yn derbyn y taliad sengl.

</AI2>

<AI3>

2       Papur(au) i’w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

</AI3>

<AI4>

2.1   PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Craffu cyn y gyllideb - 28 Medi 2022

</AI4>

<AI5>

2.2   PTN 2 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) - 30 Medi 2022

</AI5>

<AI6>

3       Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 gan y tystion a ganlyn: Ken Skates AS, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid.

 

3.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i wneud y canlynol:

 

·         Darparu nodyn ar y prosiectau a nodwyd ar gyfer 2023-24, sydd wedi'u cynnwys yng nghronfa prosiect y Comisiwn.

·         Cylchredeg canllaw i Aelodau o’r Senedd ynghylch y system wresogi ac awyru yn swyddfeydd Tŷ Hywel.

·         Darparu nodyn ar y blaenoriaethau lefel uchaf o fewn strategaeth y Comisiwn ar gyfer lleihau ei gostau ynni a'i ôl troed carbon.

·         Darparu nodyn ar gymhwysedd y Comisiwn ar gyfer menter Llywodraeth Cymru, buddsoddi i arbed.

·         Darparu nodyn ar strwythur staff y Comisiwn.

</AI6>

<AI7>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

5       Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

</AI8>

<AI9>

6       Goblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Adroddiad drafft

6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

</AI9>

<AI10>

7       Goblygiadau ariannol Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dogfennau ategol a chytunodd i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar oblygiadau Ariannol Bil Amaethyddiaeth (Cymru).

</AI10>

<AI11>

8       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad drafft

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

</AI11>

<AI12>

9       Adolygu Protocol y Gyllideb

9.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y papur ar Brotocol y Gyllideb.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>